Hanes ‘Tref Newydd’

Y Drenewydd/Newtown yw tref fwyaf Sir Drefaldwyn a Phowys. 

Fe’i sefydlwyd yn ‘dref farchnad’ gan Edward I yn y 13eg ganrif. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd rhyw 800 o bobl yn byw yn y dref, ond wedyn fe welodd dwf ar raddfa gyflym. Daeth yn ganolfan ryngwladol yn y diwydiannau tecstilau oedd wrth wraidd y chwyldro diwydiannol. Ar ddiwedd y ganrif, daeth yn adnabyddus fel cartref y cwmni archebu trwy’r post cyntaf yn y byd – Pryce Jones a’r Royal Welsh Warehouse Company.

Newtown in 1832

Tua’r adeg hon, roedd rhyw 7,000 o bobl yn byw yma, llawer ohonynt wedi symud i’r ardal am y swyddi crefftus oedd ar gael.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd ei ffortiwn bylu, caeodd ffatrïoedd a dechreuodd y boblogaeth ddirywio, gan daro amcangyfrif isel o ryw 4,700 ym 1937. Dechreuodd bethau droi yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan ddaeth yn gartref i un o’r rhwydwaith o ‘ffatrïoedd cysgodol’ adeg y rhyfel oedd yn creu fframiau awyrennau a barilau gynnau (y Lion Works erbyn hyn), i wersyll carcharorion rhyfel a gwersyll hyfforddiant milwrol, gan gynnwys y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Erbyn 1961, cwympodd y boblogaeth unwaith eto, i ddim ond 5,000 o bobl. Adlewyrchai’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘problem canolbarth Cymru’ (diboblogi gwledig parhaus) a arweiniodd yn y pen draw, ynghyd â rhywfaint o lifogydd dramatig yng nghanol y dref, at ddynodi a datblygu’r Drenewydd yn ‘Dref Newydd’ yn y 1970au. Gyda hynny, gwelwyd ailddatblygu, ehangu tai a lle ffatri, busnesau a swyddi newydd (gan gynnwys prif ffatri Laura Ashley) a mewnlifiad o bobl newydd. Mae’r Drenewydd bellach yn gartref i ryw 11,500 o bobl.

Fel sawl tref farchnad fach, mae gan y Drenewydd hanes hir a rhyfeddol. Ar y tudalennau hyn (sy’n waith sy’n mynd rhagddo!), byddwn yn defnyddio ystod o ddulliau i ddarparu trosolwg o’r hanes hwn ac o arwyddocâd y Drenewydd, nid dim ond ar gyfer y bobl sydd wedi byw yno ond sut mae wedi cael dylanwad ar leoedd yn llawer pellach i ffwrdd. Mae’r tudalennau ar y safle hwn yn fan cychwyn gyda llawer mwy i ddod.